Mae Dangos yma i helpu pobl i sicrhau eu bod yn cael y cymorth ariannol y mae ganddyn nhw hawl i’w gael. Mae hynny’n cynnwys budd-daliadau gan y llywodraeth ganolog a llywodraeth leol, yn ogystal â chymorth arall sydd ar gael yng Nghymru.
Dydy llawer o bobl ddim am ofyn am gymorth, yn enwedig os nad ydyn nhw’n sicr a oes unrhyw gymorth ar gael.
Mae hynny’n golygu nad yw llawer o gymorth yn cael ei ddefnyddio. Mae amcangyfrifon diweddaraf y llywodraeth ynghylch budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd yn dangos nad yw tua 40% o’r bobl sydd â hawl i gael Credyd Pensiwn yn ei dderbyn ac nad yw tua 20% o’r bobl sydd â hawl i gael Budd-dal Tai yn ei hawlio.
Er nad yw’r ffigurau mor glir ag yn achos budd-daliadau eraill, rydym yn gwybod bod budd-daliadau anabledd, fel Lwfans Gweini a Thaliad Annibyniaeth Personol, ymhell o gael eu hawlio’n llawn.
Mae hefyd yn wir bod llawer o ffynonellau cymorth eraill sydd ymhell o gael eu defnyddio’n llawn. Mae hyn i gyd yn dod i gyfanswm o ddegau o filiynau o bunnoedd y flwyddyn yng Nghymru..
Pam mae hyn yn bwysig?
Y rheswm mwyaf am hyn, yn ôl yr ymchwil, yw nad yw pobl yn gwybod am y cymorth sydd ar gael. Y rheswm nesaf yw eu bod yn cymryd yn ganiataol na fydden nhw’n gymwys i’w gael. Mae nifer o resymau eraill hefyd, gan gynnwys amharodrwydd i hawlio oherwydd ei fod yn teimlo fel pe baen nhw’n derbyn elusengarwch. Dydy hynny ddim yn wir, wrth gwrs, oherwydd talwyd am y cymorth hwnnw gan drethi a chyfraniadau yswiriant gwladol pobl.
Mae Dangos yma i helpu i oresgyn y rhesymau hyn dros beidio â derbyn y cymorth y mae gan bobl hawl i’w gael. Gan nad yw pobl, yn aml, yn hoffi mynd i ofyn am gyngor, rydym am sicrhau bod y bobl y maen nhw’n eu gweld beth bynnag, mewn sefyllfaoedd arferol o ddydd i ddydd, yn fwy ymwybodol o ba gymorth sydd ar gael a’r math o bobl y bwriedir iddo eu helpu.
Mae hynny’n golygu rhoi gwybodaeth ac adnoddau i’r rheiny rydym yn eu galw’n weithwyr rheng flaen am y math o gymorth sydd ar gael a sut i annog pobl i fanteisio arno. Dydyn ni ddim yn mynd i geisio gwneud pobl yn arbenigwyr ar fudd-daliadau, dim ond sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r math o gymorth sydd ar gael a phwy y bwriedir iddyn nhw ei gael. Hefyd, byddwn yn rhoi cysylltiadau â mannau lle gellir cael cymorth a chefnogaeth fanylach.
Sut?
Rydym yn mynd i wneud hyn mewn tair ffordd.
Sesiynau ar-lein.
Gan ddechrau ym mis Ionawr a pharhau drwy’r flwyddyn, byddwn yn darparu sesiynau ar-lein am ddim i roi gwybod i bobl am y cymorth sydd ar gael i’r rheiny y maen nhw’n eu gweld yn eu gwaith arferol. Hefyd, bydd y sesiwn yn cynnig ffyrdd ymarferol o oresgyn amharodrwydd pobl i fanteisio ar y cymorth hwn.
Pecyn gwybodaeth.
Bydd pecyn gwybodaeth bach am ddim y gellir ei lawrlwytho a fydd yn crynhoi’r math o gymorth sydd ar gael i wahanol grwpiau o bobl yng Nghymru. Bydd hefyd yn cynnwys dolenni i ffynonellau cymorth a chefnogaeth fanwl sy’n ddefnyddiol.
E-ddysgu.
Os yw pobl am ddysgu mwy o fanylion am sut mae’r system fudd-daliadau yn gweithio, rydym hefyd yn cynnig mynediad am ddim am 12 mis at gyfres o gyrsiau e-ddysgu am y system fudd-daliadau. Bydd y cyrsiau hyn yn arwain pobl o lefel sylfaenol iawn i fanylion bychain y budd-daliadau a sut i’w defnyddio.
Y sesiynau a chofrestru
Bydd y sesiynau ar-lein ar gael drwy ddefnyddio Zoom, sef y system a ffefrir gennym, a Microsoft Teams, er enghraifft, lle nad oes hawl gan sefydliadau i ddefnyddio Zoom. Mae’r sesiynau yn para tair awr ac maen nhw’n cynnwys cyfle i gael trafodaethau a rhannu profiadau, yn ogystal ag astudiaethau achos. Bydd y sesiynau ar gael yn y bore, yn y prynhawn a rhai nosweithiau, yn ogystal â rhai slotiau ar ddydd Sadwrn. Byddan nhw ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn yr un modd â’r pecynnau gwybodaeth a rhai o’r cyrsiau e-ddysgu, a bydd rhai sesiynau ar-lein yn cael eu darparu gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
Mae dyddiadau’r sesiynau cyntaf bellach ar gael i gofrestru ar eu cyfer gan ddefnyddio Eventbrite a gellir eu gweld yma.
cedwir pob hawl | Ferret Information Systems