Beth yw Dangos?
Prosiect i’ch helpu i ddangos i bobl eraill fod llawer o ffyrdd o wella eu sefyllfa ariannol yng Nghymru, ac i ddangos i chi sut i leddfu eu pryderon am hawlio.
Mae Dangos 2024 bellach wedi cyrraedd diwedd y rownd hon.
Daliwch i wylio am gyhoeddiadau sesiynau yn y dyfodol.
Mae fforwm Dangos gyda meysydd newyddion a thrafod yn dal i redeg. Ewch i https://dangos.wrac.wales
Er bod y botwm ar waelod y dudalen hon, i gadw lle, tan weithio nid oes sesiynau ar gael. Gallwch chwilio am fanylion sesiynau blaenorol yno.
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch info@dangos.cymru
Pam mae angen hyn?
Mae ar filoedd o bobl yng Nghymru angen y cymorth y gallai ychydig o arian ychwanegol ei roi iddyn nhw: ychydig mwy o wres neu fwyd, llai o angen benthyca arian gan fenthycwyr diwrnod cyflog drud neu esgidiau newydd ar gyfer yr ysgol.
Ar yr un pryd, dydy miliynau o bunnoedd y mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw ddim yn cael eu hawlio. Dydy pobl ddim yn manteisio ar gymorth arall sydd ar gael i bobl sy’n wynebu argyfwng sydyn oherwydd nad ydyn nhw’n gwybod amdano
Ar gyfer pwy?
Bydd Dangos yn rhoi gwybodaeth i bobl fel chi, sydd mewn cysylltiad o ddydd i ddydd ag eraill y gall fod angen cymorth arnyn nhw, er mwyn i chi ddeall yn well pa gymorth sydd ar gael. Bydd yn dangos ffyrdd o annog pobl i dderbyn y cymorth y mae ganddyn nhw hawl iddo a bydd yn dangos i chi o ble y gallwch gael cymorth arbenigol i bobl sydd mewn angen
Sut mae’n gwneud hynny?
Drwy sesiwn ar-lein am ddim, yn ogystal â phecyn gwybodaeth am ddim a mynediad at e-ddysgu manwl am ddim am fudd-daliadau lles.
Sut ydw i’n gwybod a yw’n addas i mi?
Os ydych chi’n gweithio yng Nghymru, yn gyflogedig neu’n wirfoddol, gyda phobl y gall fod angen cymorth arnyn nhw i gael rhagor o arian, mae’n addas i chi.
Pwy sy’n rhoi’r sesiynau?
Mae’r sesiynau yn cael eu rhoi gan arbenigwyr profiadol ar fudd-daliadau, ac mae’r pecynnau gwybodaeth a’r e-ddysgu yn cael eu rhoi gan Ferret, sef prif arbenigwyr Ewrop ar fudd-daliadau. Mae Dangos yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
"Rwyf wedi bod yn gwneud gwaith yn nhai pobl am ychydig o flynyddoedd. Weithiau maen nhw’n oer iawn a hoffwn wybod a oes unrhyw ffordd o gael rhagor o arian am wres."
Gweithiwr cynnal a chadw mewn cymdeithas tai
"Rydym yn ceisio sicrhau bod gan bobl rywbeth i’w fwyta pan maen nhw’n dod atom ni. Hoffwn fod yn gallu awgrymu’n gyflym bethau y gallen nhw eu gwneud yn y tymor hwy."
Gwirfoddolwr mewn banc bwyd
cedwir pob hawl | Ferret Information Systems